Diweddariadau pwysig i adnodd hunan-adolygu diogelwch ar-lein 360 safe Cymru – Cwestiyanau Cyffredin

  1. Magazine
  2. Cymru Articles
  3. Diweddariadau pwysig i adnodd hunan-adolygu diogelwch ar-lein 360 safe Cymru – Cwestiynau Cyffredin

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd fersiwn wedi'i diweddaru a'i gwella o'n hadnodd diogelwch ar-lein 360 safe Cymru sydd wedi ennill gwobrau yn cael ei lansio ddiwedd mis Chwefror. Dysgwch pam mae’r adnodd yn newid yma.

Canllawiau i ddefnyddwyr presennol ar fersiwn wedi'i diweddaru o adnodd 360 safe Cymru 

Fel un o'r 1,400+ o ysgolion sydd eisoes yn defnyddio 360 safe Cymru, mae'n debyg bod gennych rywfaint o gwestiynau ynglŷn â'r fersiwn newydd a gwell o'r adnodd hunan-adolygu diogelwch ar-lein hwn. Yma rydym yn mynd drwy'r cwestiynau a ofynnir amlaf ac yn egluro sut mae 360 safe Cymru wedi gwella.

Beth sy'n newydd?

  • Erbyn hyn mae 21 agwedd yn lle 28, sy'n gwneud y cynnwys yn fwy penodol ac yn symlach i'w ddefnyddio. Edrychwch ar y diagram ar ddiwedd yr erthygl i weld strwythur yr agweddau hyn yn yr adnodd newydd.
  • Mae'r datganiadau lefel a'r camau gwella i gyd wedi'u diweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn technoleg, ymddygiadau, deddfwriaeth a chanllawiau statudol.
  • Mae lefel meincnod y Marc Diogelwch Ar-lein wedi cynyddu o lefel 3 i lefel 2 mewn pum agwedd (Diogelwch Technegol; Diogelwch Data; Staff; Asiantaethau; a Chanlyniadau/Effaith). Mae hyn yn sicrhau bod y lefel meincnod yn gyson ar draws yr adnodd.

Beth sydd wedi digwydd i'ch data yn yr 'hen' adnodd?

  • Mae eich lefelau a'ch sylwebaeth ddewisol wedi'u trosglwyddo o'r agwedd gyfatebol agosaf yn yr hen adnodd i'r agwedd newydd yn yr adnodd newydd. Edrychwch ar y tabl yn ddiweddarach yn yr erthygl i weld sut mae agweddau wedi'u huno a data wedi'i fudo.
  • Yr unig eithriad i hyn yw'r agwedd Monitro newydd. Yma mae'r lefel a ddewiswyd wedi'i chopïo o'r hen agwedd Hidlo a Monitro, ond nid y sylwadau.
  • I weld sut mae eich data wedi cael ei fudo ym mhob agwedd, cliciwch y bar oren ar frig pob tudalen adolygu agwedd sy'n nodi: “Mae'r agwedd hon wedi'i diweddaru ers i chi ei hadolygu ddiwethaf. Edrychwch ar y newidiadau yma.” Bydd hyn yn egluro sut mae'r data yn yr agwedd newydd wedi'i drosglwyddo ac a oes newid i’r lefel meincnod.

A allaf weld fy hen ddata o hyd?

  • Gallwch, gallwch argraffu eich "Adolygiad Cryno Manwl" o adran Adroddiadau'r adnodd a gallwch ddewis dyddiad hanesyddol ar gyfer yr adroddiad.

A fydd hi'n anoddach cyrraedd y lefelau meincnod newydd?

  • Yn gyffredinol, na fydd, gan na ddylai'r lefelau meincnod newydd fod yn anoddach i'w cyrraedd gan ein bod wedi addasu'r datganiadau lefel i gadw'r gofynion yn debyg. Yr eithriad i hyn yw'r datganiad lefel meincnod Diogelu Data, sy'n fwy caeth oherwydd y newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth diogelu data a chanllawiau cysylltiedig.

Beth ddylai defnyddwyr presennol ei wneud nesaf?

  • Nawr yw'r amser i chi ddiweddaru eich adolygiad fel y gallwch wirio eich polisi a'ch darpariaeth diogelwch ar-lein sy'n bodloni'r canllawiau a'r arferion da diweddaraf.
  • Gwiriwch y datganiadau lefel yn ofalus i sicrhau bod y lefel rydych wedi'i dewis o'r blaen dal yn berthnasol o hyd.
  • Darllenwch y camau gwella i weld beth allech chi ei gynnwys yn eich cynlluniau gweithredu i symud i'r lefel nesaf ym mhob agwedd, a rhoi blaenoriaeth i’r rhain.
  • Os ydych yn ystyried cais am asesiad Marc Diogelwch Ar-lein neu archwiliad ail-asesu, gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni'r lefelau meincnod newydd a bod eich sylwadau yn disgrifio'n glir sut mae eich darpariaeth yn cyfateb i'r datganiad lefel meincnod.
  • Adolygwch ddefnyddwyr 360 safe Cymru eich ysgol yn Rheolwr Defnyddwyr a diweddaru/rheoli hawliau fel y bo'n briodol.

A all ysgolion wneud cais am y Marc Diogelwch Ar-lein ar hyn o bryd?

  • Gallant, mae ceisiadau'n dal i gael eu derbyn ac mae croeso mawr iddynt.
  • Os ydych i fod i gael eich ailasesu (ar ôl tair blynedd) cewch eich annog i ddiweddaru eich adolygiad yn yr adnodd newydd a gwneud cais ar y ffurflen gais ar gyfer ail-asesu (sydd i'w gweld ar y dudalen Marc Achredu/Diogelwch Ar-lein yn yr adnodd).
  • Ac ystyried yr amgylchiadau presennol sy'n wynebu ysgolion rydym yn fodlon ymestyn dyddiad dod i ben eich dyfarniad – e-bostiwch 360safe@swgfl.org.uk i drafod.
  • Os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf, mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn bodloni'r lefelau meincnod newydd yn eich adolygiad a bod eich sylwadau yn disgrifio'n glir sut mae eich darpariaeth yn cyfateb i'r datganiad lefel meincnod.  Yna bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein ar y dudalen Marc Diogelwch Ar-lein yn yr adnodd.
  • Er mwyn gwneud iawn am yr anawsterau y gallai ysgolion eu hwynebu ar hyn o bryd wrth wneud cais am y dyfarniad, rydym yn cynnig asesiadau o bell yn lle ymweliad gan Asesydd.

A oes modd asesu ysgolion yn erbyn y fersiwn blaenorol o'r adnodd?

  • Byddem yn annog ysgolion i ddiweddaru eu hadolygiad ac i gael eu hasesu yn erbyn y meini prawf newydd.
  • Fodd bynnag, bydd modd i ysgolion, sydd eisoes yn gweithio tuag at asesiad, gael eu hasesu yn erbyn y meini prawf blaenorol tan ddiwedd tymor yr haf 2021 os ydynt yn dymuno. Byddem yn defnyddio'r "adroddiad hanesyddol" ar gyfer yr ysgol ar yr adeg y diweddarwyd yr adnodd. Byddem yn disgwyl i'r ysgol fod wedi adolygu’r adroddiad hwnnw yn ddiweddar - cyn y diweddariad – neu fel arall byddai'n hen erbyn adeg yr asesiad.

Sut mae'r hen ddata wedi'i fudo i'r agweddau yn yr adnodd newydd?

Manylion uno agweddau yn yr adnodd 360 safe Cymru wedi'i ddiweddaru

Elfen bresennol

Llinyn presennol

Agweddau presennol

 

Agweddau newydd

Polisi ac Arweinyddiaeth

Cyfrifoldebau

Grŵp Diogelwch Ar-lein

 

Grŵp Diogelwch Ar-lein

Cyfrifoldebau Diogelwch Ar-lein

 

Cyfrifoldebau Diogelwch Ar-lein

Llywodraethwyr

Polisïau

Defnydd derbyniol

 

Defnydd derbyniol

Datblygu polisi

 

Polisi diogelwch ar-lein

Cwmpas polisi

Yr ysgol gyfan

Adrodd

 

Adrodd ac ymateb

Datblygu diwylliant o ddefnydd diogel a chyfrifol

Hunanwerthuso

Technolegau cyfathrebu a chyfathrebu

Delweddau digidol a fideo

Delweddau digidol a fideo

Cyfryngau cymdeithasol

Cyfryngau cymdeithasol

Technoleg symudol

Technoleg symudol

Safonau proffesiynol

Safonau proffesiynol

Cyfathrebu cyhoeddus ar-lein

Cyhoeddi ar-lein

Seilwaith

Cyfrineiriau

Diogelwch cyfrineiriau

 

Diogelwch technegol

Gwasanaethau

Diogelwch technegol

Hidlo a monitro

 

Hidlo

Monitro

Diogelu data

 

Diogelwch data

Addysg

Dysgwyr

Llythrennedd digidol

 

Rhaglen addysg diogelwch ar-lein

Addysg am ddiogelwch ar-lein

Cyfraniad dysgwyr

 

Cyfraniad dysgwyr

Staff

Hyfforddiant staff

 

Staff

Llywodraethwyr

Addysg Llywodraethwyr

 

Llywodraethwyr

Rhieni a gofalwyr

Ymgysylltu â rhieni

 

Teuluoedd

Cymuned

Ymgysylltu â’r gymuned

 

Asiantaethau

Safonau ac arolygu

Monitro

Monitro a chofnodi digwyddiadau OS

 

Effaith y polisi a'r arfer diogelwch ar-lein

Effaith y polisi a'r arfer diogelwch ar-lein

Sut mae'r agweddau newydd yn edrych yn yr adnodd newydd?