Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd fersiwn wedi'i diweddaru a'i gwella o'n hadnodd diogelwch ar-lein 360 safe Cymru sydd wedi ennill gwobrau yn cael ei lansio ddiwedd mis Chwefror. Yma rydym yn manylu ar y nodweddion a'r newidiadau newydd y gall defnyddwyr newydd a defnyddwyr presennol elwa arnynt.
Pam bod angen fersiwn newydd?
Mae dros 90% o ysgolion yng Nghymru wedi defnyddio adnodd 360 safe Cymru. Mae dadansoddiad data blynyddol wedi dangos bod yr adnodd pwysig hwn wedi helpu i wella polisi ac arferion diogelwch ar-lein yn sylweddol mewn ysgolion.
Fodd bynnag, mae angen i ni barhau i wella'r adnodd i ddiwallu anghenion ysgolion a bod yn ymwybodol o'r dechnoleg, yr ymddygiadau, y ddeddfwriaeth a'r canllawiau statudol diweddaraf. Yn wreiddiol, lluniwyd yr hierarchaeth safonau y mae 360 safe Cymru wedi’u seilio arnynt mewn cyfnod pan oedd defnyddio technolegau digidol a chyfryngau cymdeithasol yn llawer mwy cyfyngedig. Roedd dyfeisiau a ffonau symudol yn ddrud ac ystafelloedd TGCh a byrddau gwyn rhyngweithiol oedd yn cael eu defnyddio bob dydd. Rydym wedi diweddaru'r cynnwys yn yr adnodd yn rheolaidd er mwyn ei gadw'n berthnasol ond mae'r strwythur gwreiddiol wedi aros yr un fath. Rydym bellach wedi penderfynu ailstrwythuro'r adnodd i adlewyrchu anghenion ysgolion yn y dirwedd fodern hon gan leihau'r effaith ar ddefnyddwyr ar yr un pryd.
Dod â'r ecosystemau ynghyd
Dangosodd ein gwaith hanesyddol gyda 360 safe Cymru bod ysgolion yn defnyddio'r adnodd mewn sawl ffordd, rhai yn fwy effeithiol nag eraill. Roedd yr ysgolion mwyaf llwyddiannus yn dirprwyo meysydd o fewn yr adnodd i'r rhai yn yr ysgol yr oedd eu gwybodaeth a'u harbenigedd fwyaf priodol i lunio barn ddibynadwy. Arweinwyr yn rhoi barn am bolisi; technegwyr yn rhoi barn am dechnoleg; addysgwyr yn rhoi barn am addysg.
Roeddem am wneud y meysydd hyn yn fwy amlwg felly’r man cychwyn oedd y blociau adeiladu sylfaenol; yr elfennau. Mae'r elfennau newydd hyn yn disgrifio rhai o'r ecosystemau allweddol mewn ysgolion ac wedi cael eu hail-drefnu a'u hail-enwi i adlewyrchu eu blaenoriaeth.
Mae’r elfennau fel a ganlyn:
Elfen | Anelu at | Cynnwys |
Polisi ac Arweinyddiaeth | Arweinwyr Ysgolion, Llywodraethwyr, Swyddogion Diogelu Dynodedig | Cyfrifoldeb ac atebolrwydd am ddigwyddiadau; sut yr ymdrinnir â nhw a'r polisi sy'n llywio pob rhan o'r strategaeth |
Addysg | Arweinwyr cwricwlwm ac arbenigwyr pwnc | Sut mae dysgwyr yn cael eu haddysgu i feithrin gwytnwch; hyfforddiant staff i wella ymarfer; sut mae teuluoedd yn cael eu cefnogi a sut mae asiantaethau allanol yn cyfrannu at y strategaeth |
Technoleg | Technegwyr; rheolwyr rhwydwaith a'r rhai sy'n gyfrifol am ddiogelu data | Hidlo, monitro a diogelu i gadw pob defnyddiwr yn ddiogel. Diffinio arferion wrth ddefnyddio technolegau a bodloni rhwymedigaethau diogelu data |
Canlyniadau | Arweinwyr Ysgolion, Llywodraethwyr, Swyddogion Diogelu Dynodedig | Effaith polisi ac arferion diogelwch ar-lein |
Lleihau llwyth gwaith
Mae ail-lunio'r adnodd fel hyn yn golygu ein bod wedi gallu sicrhau bod dyfarniadau nid yn unig yn fwy dibynadwy a pherthnasol ond bellach yn ofynnol ar gyfer 21 agwedd yn unig, yn hytrach na'r 28 blaenorol, gan leihau llwyth gwaith.
Yn y gorffennol, roedd rhai o’r elfennau disgrifio hynny yn cynnwys llawer o eiriau ac yn ailadroddus wrth iddynt ddwyn ffrwyth. Rydym bellach wedi'u rhannu'n gamau symlach sy'n adeiladu ar y lefel flaenorol. Mae hyn yn ei gwneud yn llawer mwy amlwg olrhain dilyniant (gyda llai o bethau ar y sgrin hefyd).
Rydym hefyd wedi llunio elfennau disgrifio lefel newydd i sicrhau bod y trothwyon meincnod a awgrymir i gyd ar Lefel 2 erbyn hyn. O ran y rhan fwyaf o agweddau ni fydd yn fwy anodd i ysgolion gyrraedd y lefel meincnod newydd, ond ar gyfer rhai agweddau e.e. diogelu data, bydd y safonau meincnod gofynnol yn uwch oherwydd newidiadau mewn deddfwriaeth neu ganllawiau statudol.
Beth arall sydd wedi newid?
Caiff newidiadau i gynnwys yr adnodd hefyd eu hadlewyrchu yn y templedi polisi newydd – sydd ar gael yn yr adnodd ac ar Hwb. Mae'r rhain wedi'u hail-drefnu a'u diweddaru i adlewyrchu'r canllawiau diweddaraf a'r newidiadau statudol.
Beth mae hyn yn ei olygu i ddefnyddwyr presennol 360 safe Cymru?
Mae eich lefelau a'ch sylwadau wedi'u trosglwyddo i'r adnodd newydd. Lle mae agweddau wedi newid, bydd y data hwn wedi'i drosglwyddo o'r dyfarniad cyfatebol agosaf yn yr hen adnodd i wneud y broses yn haws i chi.
Byddem yn annog pob ysgol i fynd i’r adnodd newydd ar ôl y diweddariad i sicrhau bod y lefelau a'r sylwadau y gwnaethoch eu darparu dal yn gywir ac i sicrhau bod eich arferion yn dal i fodloni’r canllawiau statudol. Caiff ysgolion eu cynghori hefyd i adolygu eu defnyddwyr 360 safe Cymru yn Rheolwr Defnyddwyr a diweddaru/rheoli eu hawliau fel y bo'n briodol.
Yn yr adnodd newydd, gallwch barhau i fynd yn ôl a chael gafael ar adroddiad o'ch lefelau a'ch sylwadau fel yr oeddent yn bodoli yn yr hen strwythur ar adeg y diweddariad.
Beth nesaf?
Bydd y fersiwn newydd lawn o 360 safe Cymru ar gael o 22 Chwefror 2021, gyda newidiadau yn dechrau dod i rym o 15 Chwefror. Os ydych yn ddefnyddiwr, byddwn mewn cysylltiad i roi gwybod mwy i chi am y newidiadau.
Heb ddefnyddio 360 safe Cymru eto i lunio strategaeth diogelwch ar-lein eich ysgol? Dyma’r amser delfrydol i ddechrau taith eich ysgol ac ymuno â'r 1,400+ o ysgolion yng Nghymru sydd eisoes yn elwa o'r adnodd hwn sydd wedi ennill gwobrau.
Bydd y defnyddwyr presennol yn cael rhagor o wybodaeth drwy e-bost am y newidiadau sydd ar y gweill. Bydd mwy o fanylion hefyd ar gael ar Hwb yn ogystal ag ar yr adnodd 360 safe Cymru ei hun.