Cefnogi ysgolion yng Nghymru gydag e-Ddiogelwch – beth rydym wedi’i gyflawni hyd yma

Cefnogi ysgolion yng Nghymru gydag e-Ddiogelwch – beth rydym wedi’i gyflawni hyd yma

Yn 2014, gwnaeth South West Grid for Learning (SWGfL) gais am gontract i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno addysg e-Ddiogelwch ledled Cymru, ac ennill y contract hwnnw. Ers hynny, mae’r gweithgareddau wedi canolbwyntio ar 4 argymhelliad allweddol yn dilyn adroddiad Tirwedd a luniwyd ym mis Mai 2014. Yr argymhellion hynny oedd:

  1. Meithrin gallu lleol mewn ysgolion ac asiantaethau eraill sy’n eu grymuso i gynnal eu strategaeth ddiogelu ar-lein eu hunain
  2. Gwella Ymwybyddiaeth Diogelwch Ar-lein a Datblygiad Proffesiynol ar draws gweithlu’r Plant
  3. Meithrin cysylltiadau cadarnhaol â theuluoedd i gefnogi a chynnal diogelwch ar-lein gartref ac yn y gymuned leol
  4. Rhoi sylw a chyfeirio at arbenigedd a gweithgaredd diogelwch ar-lein cenedlaethol

Ers eu cyhoeddi, mae SWGfL wedi bod yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i ddarparu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â'r argymhellion hyn.

Argymhelliad Un

360 Cymru (360 degree safe Cymru) - fframwaith hunan-adolygu ar gyfer e-Ddiogelwch yng Nghymru a lansiwyd yn swyddogol ym mis Hydref 2014 pan mai dim ond 196 ysgol yng Nghymru oedd yn defnyddio’r teclyn 360 degree safe Saesneg gwreiddiol. Mae’r gwaith addysg ac allgymorth sydd wedi’i wneud dros y 18 mis diwethaf wedi arwain at newid sylweddol yn y tirwedd e-Ddiogelwch yng Nghymru.

Mae SWGfL yn falch o gyhoeddi bod dros 1000 o ysgolion yng Nghymru bellach yn defnyddio 360 Cymru, sef 71% o’r holl ysgolion yng Nghymru. Mae 75% o’r ysgolion sydd wedi cofrestru yn defnyddio’r teclyn yn weithredol ac mae canran gynyddol o ysgolion yn cwblhau pob un o’r 28 elfen.

Mae'r ffigurau hyn yn dangos gwaith caled ac ymroddiad ysgolion ledled Cymru i ddiogelu plant rhag peryglon niwed ar-lein. Bwriedir gwneud rhagor o waith yn ystod Tymor yr Haf 2016. Mae’r teclyn 360 Cymru ar gael ar y bar du pan fyddwch yn mewngofnodi i Hwb.

Cafodd Adnodd Llythrennedd Digidol Cymru ei lansio hefyd ym mis Hydref 2014. Mae’r adnodd hwn yn rhoi 5 gwers i ysgolion ar gyfer pob grŵp blwyddyn ar draws 8 o feysydd llythrennedd digidol.  Mae’r defnydd o'r adnodd hwn wedi cynyddu o 1,500 o ymweliadau ar gyfartaledd y mis i 2,000 o ymweliadau y mis. Hefyd, yn ystod blwyddyn academaidd mis Medi 2015-16, gwnaethom lunio cyfres o adnoddau rhestr chwarae yn seiliedig ar y testunau Llythrennedd Digidol. Mae'r casgliad gwych hwn o syniadau a chyfleoedd ar gyfer y dosbarth ar gael drwy’r parth e-Ddiogelwch ar Hwb.

Argymhelliad Dau

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ymwybyddiaeth o e-Ddiogelwch a datblygu’r maes o fewn y gweithlu, mae cyfres o sesiynau briffio wedi cael eu darparu yn ardaloedd Awdurdodau Lleol Cymru.  Hyd yma, rydym wedi cyflwyno 31 o ddiwrnodau hyfforddiant ym maes e-Ddiogelwch ar draws yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mynychodd 1,069 o bobl y diwrnodau hyn a oedd yn cynnwys staff ysgolion, llywodraethwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes diogelu. Rydym yn dal i ddarparu dyddiadau ledled Cymru. Ewch i’n map ar hwb.cymru.gov.uk.

Argymhelliad Tri

Fel rhan o’n gwaith yn hyrwyddo'r Adnodd Llythrennedd Digidol, rydym wedi sicrhau bod y Deunyddiau i Rieni sydd yn yr adnodd hwn yn cael eu hyrwyddo. Mae’r adnoddau hyn, a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan Commons Sense Media, yn rhoi adnoddau ymarferol a phragmatig i rieni i’w helpu i gefnogi eu plant ar-lein. Yn ein holl gyflwyniadau, mae cymorth a chyngor wedi cael ei gynnig i ysgolion ar sut i helpu eu rheini i fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag e-Ddiogelwch.
Rydym yn ffodus yn ein rôl fel y prif bartner yng Nghanolfan Rhyngrwyd Fwy Diogel y DU ein bod wedi gallu sefydlu a rhedeg y Llinell Gymorth Diogelwch Ar-Lein i Weithwyr Proffesiynol.  Mae tîm y gwasanaeth hwn yn arbenigwyr yn y maes hwn ac yn rhoi cefnogaeth i ysgolion yn rheolaidd gyda'r problemau maent yn eu hwynebu. Rydym wedi sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru sy’n mynychu ein digwyddiadau yn gwybod am y cymorth y gall y llinell gymorth ei ddarparu, ac yn ei ddeall.

Argymhelliad Pedwar

Ydych chi wedi gweld y parth e-Ddiogelwch ar Hwb? Mae’n llawn syniadau, ac ar hyn o bryd rydym yn eu diweddaru unwaith eto. Mae’r adran mynediad-agored hwn ar Hwb yn rhoi gwybodaeth i'r holl ddefnyddwyr am ble i fynd i gael cymorth a chefnogaeth ac am yr adnoddau sydd ar gael gan Hwb.

Rydym wedi cefnogi cydweithwyr ledled Cymru mewn awdurdodau lleol i ddatblygu eu sgiliau'u hunain ar gyfer cefnogi'r heriau a'r problemau sy’n ymwneud ag e-Ddiogelwch.

Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu’r gefnogaeth sy’n cael ei chynnig i Gymru. Dyma crynodeb o’r hyn yr rydym wedi’i cyflawni hyd yma:

Back to Magazine

Related Articles