Hwb.
Cafodd Adnodd Llythrennedd Digidol Cymru ei lansio hefyd ym mis Hydref 2014. Mae’r adnodd hwn yn rhoi 5 gwers i ysgolion ar gyfer pob grŵp blwyddyn ar draws 8 o feysydd llythrennedd digidol. Mae’r defnydd o'r adnodd hwn wedi cynyddu o 1,500 o ymweliadau ar gyfartaledd y mis i 2,000 o ymweliadau y mis. Hefyd, yn ystod blwyddyn academaidd mis Medi 2015-16, gwnaethom lunio cyfres o adnoddau rhestr chwarae yn seiliedig ar y testunau Llythrennedd Digidol. Mae'r casgliad gwych hwn o syniadau a chyfleoedd ar gyfer y dosbarth ar gael drwy’r parth e-Ddiogelwch ar Hwb.
Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ymwybyddiaeth o e-Ddiogelwch a datblygu’r maes o fewn y gweithlu, mae cyfres o sesiynau briffio wedi cael eu darparu yn ardaloedd Awdurdodau Lleol Cymru. Hyd yma, rydym wedi cyflwyno 31 o ddiwrnodau hyfforddiant ym maes e-Ddiogelwch ar draws yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mynychodd 1,069 o bobl y diwrnodau hyn a oedd yn cynnwys staff ysgolion, llywodraethwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes diogelu. Rydym yn dal i ddarparu dyddiadau ledled Cymru. Ewch i’n map ar hwb.cymru.gov.uk.
Fel rhan o’n gwaith yn hyrwyddo'r Adnodd Llythrennedd Digidol, rydym wedi sicrhau bod y Deunyddiau i Rieni sydd yn yr adnodd hwn yn cael eu hyrwyddo. Mae’r adnoddau hyn, a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan Commons Sense Media, yn rhoi adnoddau ymarferol a phragmatig i rieni i’w helpu i gefnogi eu plant ar-lein. Yn ein holl gyflwyniadau, mae cymorth a chyngor wedi cael ei gynnig i ysgolion ar sut i helpu eu rheini i fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag e-Ddiogelwch.
Rydym yn ffodus yn ein rôl fel y prif bartner yng Nghanolfan Rhyngrwyd Fwy Diogel y DU ein bod wedi gallu sefydlu a rhedeg y Llinell Gymorth Diogelwch Ar-Lein i Weithwyr Proffesiynol. Mae tîm y gwasanaeth hwn yn arbenigwyr yn y maes hwn ac yn rhoi cefnogaeth i ysgolion yn rheolaidd gyda'r problemau maent yn eu hwynebu. Rydym wedi sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru sy’n mynychu ein digwyddiadau yn gwybod am y cymorth y gall y llinell gymorth ei ddarparu, ac yn ei ddeall.
Ydych chi wedi gweld y parth e-Ddiogelwch ar Hwb? Mae’n llawn syniadau, ac ar hyn o bryd rydym yn eu diweddaru unwaith eto. Mae’r adran mynediad-agored hwn ar Hwb yn rhoi gwybodaeth i'r holl ddefnyddwyr am ble i fynd i gael cymorth a chefnogaeth ac am yr adnoddau sydd ar gael gan Hwb.
Rydym wedi cefnogi cydweithwyr ledled Cymru mewn awdurdodau lleol i ddatblygu eu sgiliau'u hunain ar gyfer cefnogi'r heriau a'r problemau sy’n ymwneud ag e-Ddiogelwch.
Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu’r gefnogaeth sy’n cael ei chynnig i Gymru. Dyma crynodeb o’r hyn yr rydym wedi’i cyflawni hyd yma: